The Sift exhibition weaves together the themes of journeying, sacred places, ancestral heritage, storytelling, and longing for home through photography, animation, sound, ritual, text, story, glass, and light. The artists have been inspired by the findings of the wider Ancient Connections project.
Historical research, folklore, and story-gathering have revealed deep connections between these two regions. The archaeological excavations and geophysical surveys at Whitesands and in Ferns, Wexford tell a story of travel and connection between Wexford and Pembrokeshire from pre-history to the modern day. Sift tours from Oriel Y Parc and The Refectory, St Davids, Pembrokeshire to Wexford County Council Offices, Wexford Town in 2023.
Ancient Connections
Mae Sift yn dwyn ynghyd chwech o artistiaid o ddwyrain Iwerddon a gorllewin Cymru, a’r rheini’n gweithio mewn gwahanol gyfryngau. Mae’r artistiaid wedi’u comisiynu gan brosiect Cysylltiadau Hynafol, sef prosiect pedair blynedd sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a hwnnw’n cysylltu Swydd Llwch Garmon (Wexford) a Sir Benfro. Mae’r arddangosfa’n cyfuno themâu mynd ar daith, llefydd cysegredig, treftadaeth ein llinach, adrodd straeon, a hiraethu am gartref, a hynny drwy ffotograffiaeth, animeiddio, seiniau, defodau, testunau, straeon, gwydr, a golau.
Mae’r artistiaid wedi cael eu hysbrydoli gan ganfyddiadau prosiect ehangach Cysylltiadau Hynafol. Mae ymchwil hanesyddol, llên gwerin a chasglu straeon wedi dangos y cysylltiadau dwfn sydd rhwng y ddwy ardal hon. Ac mae’r cloddio archeolegol a’r arolygon geoffisegol ym Mhorth Mawr a Ferns, Swydd Llwch Garmon, yn dangos sut y bu teithio a chysylltiadau rhwng Llwch Garmon a Sir Benfro o’r cyfnod cynhanesyddol hyd y dydd hwn.
Teithiau Sift o Oriel Y Parc a’r The Refectory, Tyddewi, Sir Benfro i Swydd Llwch Garmon, Dref Wexford yn ystod 2023.
Artists
Seán Vicary, Cardigan, Ceredigion: What is this that is coming?
My work responds to a month spent working alongside Dyfed Archaeological Trust during the excavation of an early medieval cemetery threatened by imminent coastal erosion at St Patrick’s Chapel, Whitesands. I used moving images, field recordings, and animation to reflect on this experience. The resulting stratigraphic sequences cut across inner and outer landscapes and evoke timescales that reach beyond our own lifespan.
John Sunderland, artist and archaeologist, Cork: Unheimlich
I followed the pilgrimage route from Ferns to St. Davids, travelling through palimpsestic landscapes scattered with traces of multiple pasts. I imagined how someone from the Mediaeval period would have reacted to these landscapes, photographing scenes that epitomise these reflections. Relics touched could miraculously salve the pilgrim. I have made a contemporary reliquary to act as the end-point of my own pilgrimage.
Linda Norris, Pembrokeshire: Fragment Dresser
The dresser is a familiar iconic piece of furniture that has pride of place in many homes in both Wales and Ireland. I created a virtual dresser using glass, light, and shadow. Sandblasted into the glass are fragments of handwritten poems by contributors from Pembrokeshire and Ireland inspired by found shards. These tiny shards provide a portal into other lives and places, and journeying there inspires us to reflect on our own.
Sylvia Cullen, County Wexford: Smugglers and Summer Snowflakes
It is the sea which connects us. Writing and recording a quartet of new short stories has been the focus of my work. Most of the characters and worlds which emerged were informed by lives and events connected to the seawaters linking Pembrokeshire and Wexford. Lose yourself in these stories and enjoy.
Tracy Breathnach, Wales: Light-Boats
Join Tracy Breathnach and friends on Whitesands Beach, just after the Equinox, to participate in a simple creative ceremony to honour the lives of those who were buried at St Patrick’s Chapel. You will create a palm-sized clay boat, filled with a tiny bundle of native plants, shells and pebbles along with your thoughts, prayers, and wishes for those who were buried at this site and for all those who have arrived and departed on this beach throughout history. Tracy Breathnach is a performance artist, writer, and researcher, originally from Ireland and living in Wales since 2004.
David Begley, artist and writer, County Wexford: Small Finds
The Irish for Alder is Fearna, from which the village of Ferns, County Wexford, derives its name. Alder cones when boiled produce a rich, transparent, amber colour. Inspired by Mediaeval manuscript-making, I foraged natural pigments from farm hedgerows in Ferns to make inks. Dowsing paper in salt water and brushing or pouring ink onto this surface produces pools. In these layers and shapes, I find the soft open slopes of Ferns as well as monks, pilgrims, healers, crones, visions, beasts.

Artistiaid
Seán Vicary, Aberteifi, Ceredigion: Beth yw hwn sydd yn dod?
Mae fy ngwaith yn ymateb i fis a dreuliais yn gweithio gyda Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, a ninnau’n cloddio mewn mynwent o’r oesoedd canol cynnar sy’n wynebu bygythiad mawr yn sgil yr erydiad arfordirol yng Nghapel Sant Padrig, Traeth Mawr. Rwyf wedi defnyddio delweddau symudol, recordiadau o’r maes, ac animeiddiadau i fyfyrio am y profiad hwn. Mae’r dilyniannau stratigraffig sydd wedi’u creu yn torri drwy dirweddau mewnol ac allanol, ac yn dwyn i gof gyfnodau sydd ymhell y tu hwnt i’n hoes ni.
John Sunderland, arlunydd ac archeolegydd, Corcaigh: Unheimlich
Rwyf wedi dilyn llwybr y pererinion o Ferns i Dyddewi, gan deithio drwy dirweddau palimpsestig, lle mae olion sawl gorffennol wedi’u gwasgaru. Rwyf wedi dychmygu sut y byddai rhywun o’r cyfnod canoloesol wedi ymateb i’r tirweddau hyn, gan greu ffotograffau o olygfeydd sy’n cyfleu’r myfyrdodau yma. Yn wyrthiol, gallai cyffwrdd â chreiriau achub y pererin. Rwyf wedi creu fy nghreirfa gyfoes fy hun, i fod yn ben draw i fy mhererindod i.
Linda Norris, Sir Benfro: Dresel Ddernynnau
Mae’r ddreser yn ddodrefnyn cyfarwydd, eiconig sy’n amlwg iawn mewn nifer o gartrefi yng Nghymru ac Iwerddon. Rwyf wedi creu ‘dreser rithwir’ gan ddefnyddio gwydr, golau a chysgodion. Mae darnau o gerddi mewn llawysgrifen wedi’u sgwrio i’r gwydr â thywod. Pobl o Sir Benfro ac Iwerddon sydd wedi cyfrannu’r cerddi, ar ôl cael eu hysbrydoli gan ddarnau bach o grochenwaith y daethon nhw ar eu traws. Mae’r darnau mân o grochenwaith yn rhoi ffenestr i fywydau a llefydd eraill, ac mae teithio i’r mannau hyn yn ein hysbrydoli i fyfyrio am ein bywydau ni.
Sylvia Cullen, Swydd Llwch Garmon: Smyglwyr a Phlu Eira’r Haf
Y môr sy’n ein cysylltu ni â’n gilydd. Mae fy ngwaith wedi canolbwyntio ar ysgrifennu a recordio pedair stori newydd. Mae’r rhan fwyaf o’r cymeriadau a’r bydoedd rydw i wedi eu creu wedi’u seilio ar fywydau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r môr, a’r rheini’n cysylltu Sir Benfro a Swydd Llwch Garmon (Wexford). Ymgollwch yn y straeon a mwynhewch.
Tracy Breathnach, Cymru: Cychod Golau
Ymunwch â Tracy Breathnach a’i ffrindiau yn Nhraeth Mawr, yn fuan wedi Cyhydnos y Gwanwyn, i gymryd rhan mewn seremoni greadigol syml er parch i’r rheini a gladdwyd yng Nghapel Sant Padrig. Byddwch chi’n creu cwch clai, maint cledr eich llaw, a hwnnw’n llawn o blanhigion brodorol, cregyn a cherigos, ynghyd â’ch meddyliau, eich gweddïau a’ch dymuniadau i’r bobl a gladdwyd ar y safle hwn a phawb sydd wedi cyrraedd a gadael y traeth hwn drwy’r oesau. Artist perfformio, awdur, ac ymchwilydd yw Tracy Breathnach, hanu o Iwerddon yn wreiddiol, ac wedi byw yng Nghymru ers 2004.
David Begley, arlunydd ac awdur, Swydd Llwch Garmon: Darganfyddiadau Bach
Fearna yw’r gair Gwyddeleg am wernen. Dyna darddiad enw pentref Ferns yn Swydd Llwch Garmon (Wexford). Wrth eu berwi, bydd conau gwern yn creu lliw ambr cyfoethog, tryloyw. A minnau wedi fy ysbrydoli gan y broses o greu llawysgrifau yn yr oesoedd canol, fe es i fforio pigmentau naturiol o berthi ffermydd yn Ferns i greu inciau. Mae trochi papur mewn dŵr hallt a brwsio neu dywallt inc ar ei arwyneb yn creu pyllau. Yn yr haenau a’r siapiau hyn, rwy’n gweld llethrau agored Ferns, yn ogystal â mynaich, pererinon, iachawyr, gwrachod, gweledigaethau a bwystfilod.
