Get your diaries out and your little grey cells ready to investigate. Wales’s very first international crime fiction festival kicks off live in Aberystwyth and online 21-23 April 2023, bringing its own brand of murder, mystery, and mayhem to the seaside town.
The motive?
How is it possible, you may ask that, with crime fiction the biggest selling genre in Britain, and more Welsh crime writers than ever, Wales has never had a dedicated crime writing event of its own? Nothing to rival the likes of Bloody Scotland, Newcastle’s Noir festival, or Bristol’s Crimefest?
Wales is home to, or the inspiration behind, the works of bestselling authors like Clare Mackintosh and Belinda Bauer. And Welsh crime dramas like Hinterland/Y Gwyll, Keeping Faith/Un Bore Mercher, Hidden/Craith, and The Light in the Hall/Y Golau attract international fans.
Yet it seems that crime fiction created and/or set in Wales is simply not as well-known as its counterparts elsewhere in the UK. Now Crime Cymru, the Welsh crime writing cooperative behind Gŵyl Crime Cymru Festival, aims to change that.
The means?
Crime Cymru believes that Wales has something unique to offer the world of crime fiction and we are determined to change perceptions with our own international crime festival. Following two highly successful online festivals in 2021 and 2022, the first physical festival will take place in Aberystwyth in association with Aberystwyth Council and Waterstones, with the support of the Welsh Government, Literature Wales, and the Arts Council of Wales.
High-profile crime writers like Clare Mackintosh, Mari Hannah, Caro Ramsay, and Ben Aaronovitch are already on the guest list alongside home-grown authors from Crime Cymru.
The opportunity?
This is going to be a fantastic chance for crime fans to join guest authors for some amateur sleuthing and watch bestselling crime writers talk about their work, as we bring the who-dunnit, why-dunnit, where-dunnit, and how-dunnit of crime fiction to one of Wales’s most scenic locations. The weekend will include events and workshops in both English and Welsh, a dragon parade, and gala evening, as well as opportunities for readers and writers to mingle in more informal settings.
“It’s so exciting to be bringing Wales its very first official crime writing festival, and there’s going to be something for everyone. From police procedurals, through psychological thrillers, to historical crime fiction, and cosy crime – you name it, we’ve got it at the festival. All weekend you’ll have the chance to see household names from TV and crime fiction talking about their work as we run events … all in one of the most beautiful and vibrant seaside towns in Wales. What could be better than that for crime fiction lovers?”
Crime Cymru founder member, author, and chair of the festival organising group Alis Hawkins
Festival committee members include crime writers:
- Alis Hawkins, whose Teifi Valley Coroner series is set in 19th century Cardiganshire, has twice been shortlisted for the Crime Writers’ Association Historical Dagger award. Her new mystery A Bitter Remedy, due to be published in March, is set in 19th century Oxford and features Welsh heroine Non Vaughan.
- Chris Lloyd from Penarth, whose many fiction accomplishments include his detective series featuring Eddie Giral, a French police officer in Paris under Nazi occupation. The first title in this series,The Unwanted Dead, won the Historical Writers’ Association Gold Crown and was shortlisted for the Crime Writers’ Association Historical Dagger.
- Beverley Jones (BE Jones) is a former journalist and police press officer from Pontypridd, and author of seven contemporary psychological thrillers. Her sixth novel Wilderness is due to air on Amazon Prime later in 2023 as a six-part drama starring Jenna Coleman and Oliver Jackson-Cohen.
For festival news and bookings, visit our festival website, where the full programme and ticket information will be available soon. Sign up online to get the latest updates on our emerging guest list and find out how to book a seat to encounter your favourite crime writer.
Gŵyl Crime Cymru Festival: Gŵyl ysgrifennu trosedd ryngwladol gyntaf Cymru

Mae rhywbeth erchyll, cyfrwys, a marwol ar y gweill, ac mae gwahoddiad i bawb! Mae gŵyl lenyddiaeth trosedd ryngwladol gyntaf Cymru yn dathlu ysgrifennu trosedd yn ei amryfal ffurfiau. Mae cynlluniau cyfrwys a chythreulig ar droed yn Aberystwyth – ac mae yna groeso i bawb!
Estynnwch am eich eich dyddiaduron a rhowch eich ymenydd ar waith yn barod am ychydig o waith ditectif. Bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol gyntaf erioed yng Nghymru, Gŵyl Crime Cymru Festival, yn cychwyn yn Aberystwyth ym mis Ebrill, 2023, gan ddod â chymysgedd unigryw o ddirgelwch a drygioni i’r dref lan-môr.
Y cymhelliad?
Byddai’n deg i ofyn sut mae’n bosibl, gan fod ffuglen drosedd y genre sy’n gwethu orau ym Mhrydain, a bod mwy nag erioed o awduron trosedd o Gymru, nad oes yna ddigwyddiad ffuglen drosedd unigryw i Gymru wedi digwydd eriod? Dim byd i gymharu â gwyliau hynod boblogaidd Bloody Scotland, Newcastle Noir, neu Crimefest ym Mryste?
Er bod Cymru’n gartref neu’n ysbrydoliaeth i nifer o awduron poblogaidd megis Clare Mackintosh a Belinda Bauer, a dramâu trosedd Cymraeg a Chymreig (Hinterland/Y Gwyll, Keeping Faith/Un Bore Mercher, Hidden/Craith, a The Light in The Hall/Y Golau) sy’n denu ffans ledled y byd, mae’n ymddangos nad yw ffuglen drosedd sy’n ymwneud â Chymru ddim mor adnabyddus â’r gweithiau cyfateb o weddill y DU.
Ond nawr mae Crime Cymru, y gydweithfa ysgrifennu trosedd Cymru sydd y tu ôl i Gŵyl Crime Cymru Festival yn benderfynol o newid y sefyllfa.
Y dull?
Mae Crime Cymru yn credu bod gan Gymru rywbeth unigryw i’w gynnig i’r byd ffuglen drosedd, ac rydym yn benderfynol o newid agweddau trwy gyfrwng ein gŵyl drosedd ryngwladol.
Yn sgil dwy ŵyl ar-lein dra llwyddiannus yn 2021 a 2022, cynhelir yr ŵyl yn-y-cnawd gyntaf yn Aberystwyth o Ebrill 21-23, 2023, mewn cydweithrediad â Chyngor Aberystwyth a Waterstones, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Llenyddiaeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae nofelwyr blaengar fel Clare Mackintosh, Mari Hannah, Caro Ramsay, a Ben Aaronovitch eisoes ar ein rhestr o siaradwyr gwadd, ochr yn ochr ag awduron cartref o blith aelodau Crime Cymru.
Y cyfle?
Cyfle gwych fydd hyn i ffans ffuglen drosedd ymuno â’n hawduron gwadd am ychydig o chwarae ditectif, a gwylio ysgrifenwyr llwyddiannus yn siarad am eu gwaith, wrth inni grwydro’r cwestiynau hollbwysig, Pwy wnaeth? Pam? a Sut? yn un o leoliadau hyfrytaf Cymru.
Bydd y penwythnos yn cynnwys digwyddiadau a gweithdai yn y Gymraeg a’r Saesneg, gorymdaith gyda dreigiau a noson fawr, yn ogystal â chyfleodd i ddarllenwyr a darllenwyr dod at ei gilydd mewn amgylchiadau anffurfiol.
“Mae’n gyffrous iawn meddwl ein bod ni’n dod â’r ŵyl ffuglen drosedd swyddogol gyntaf i Gymru, a bydd yna rywbeth i bawb,” medd Alis Hawkins, cyd-sefydlydd Crime Cymru a chadeirydd y grŵp sy’n trefnu’r ŵyl. “O nofelau ditectif a nofelau ias a chyffro seicolegol i ffuglen drosedd hanesyddol a throsedd ysgafn – yn wir, mae yna rywbeth i bawb yn yr ŵyl hon. Yn fras, gallwch ddisgwyl penwythnos arbennig iawn lle cewch y cyfle i weld pobl gyfarwydd o’r byd teledu a ffuglen drosedd yn siarad am eu gwaith yn ystod rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd yn digwydd dros Ddydd Gwener, Dydd Sadwrn a bore Sul, a hynny oll yn un o drefi mwyaf hardd a bywiog yng Nghymru. Beth allasai fod yn well, bobl ffuglen drosedd?”
Mae pwyllgor yr ŵyl yn cynnwys yr awduron Crime Cymru canlynol:
- Alis Hawkins, awdur y gyfres Crwner Dyffryn Teifi, a leolir yn Sir Aberteifi’r 19eg ganrif ac sydd wedi bod ar restr fer Dagger hanesyddol y Crime Writers’ Association. Lleolir ei nofel ddirgelwch newydd, A Bitter Remedy, a gaiff ei chyhoeddi ym mis Mawrth, yn Oxford yn y 19eg ganrif ac mae’n cynnwys arwres Cymru Non Vaughan.
- Chris Lloyd o Benarth, y mae ei gampau ffuglen yn cynnwys y gyfres dditectif sy’n ymwneud ag Eddie Giral, ditectif Ffrengig ym Mharis o dan orthrwm y Natsïaid. Enillodd nofel gyntaf y gyfres hon, The Unwanted Dead, goron aur y Historical Writers’ Association, ac roedd ar restr fer Dagger hanesyddol y Crime Writers’ Association.
- Beverley Jones (B.E. Jones), cyn-newyddiadurwraig a swyddog y wasg i’r heddlu o Bontypridd, ac awdur saith nofel ias a chyffro seicolegol gyfoes. Bydd ei chweched nofel, Wilderness, yn cael ei dangos ar Amazon Prime yn nes ymlaen yn 2023, wedi’i haddasu i ddramâu 6 rhan gyda’r sêr Jenna Coleman ac Oliver Jackson-Cohen.
Ewch i’n gwefan, lle y gwelwch y rhaglen lawn a gwybodaeth archebu tocynnau cyn bo hir, a’n gwefan; byddwn yn diweddaru’r ddwy bob wythnos. Tanysgrifiwch ar-lein i dderbyn y newyddion diweddaraf wrth i restr y siaradwyr gwadd dyfu, ac i archebu tocynnau i weld eich hoff awduron.