(Mae fersiwn Gymraeg o’r erthygl hon yn dilyn y Saesneg. The Welsh version of this article follows the English)
In a world that feels increasingly divided, the ability to connect across borders, cultures and communities has never been more important. That is precisely what Taith was created to do. Since its launch in 2022, Wales’s international learning exchange programme has opened doors for thousands of people, creating opportunities that are not only educational, but transformational. Taith means ‘journey’ in Welsh – a fitting name for a programme that is taking Wales on a journey, changing lives and strengthening our place in the world.
When Taith was established following the UK’s departure from Erasmus+, it would have been easy to focus solely on replacing a lost programme. Instead, Wales chose a more ambitious path. Taith was designed around Welsh values: inclusion, opportunity and international collaboration. It became more than a mobility scheme; it became a statement about the kind of nation Wales wants to be.

Opening doors after Erasmus
Perhaps Taith’s most significant achievement has been its commitment to breaking down barriers and expanding opportunities for those who have traditionally been underrepresented in international exchange programmes, including people from disadvantaged backgrounds, disabled people, people with additional learning needs, and individuals from ethnic minority communities. For too long, international experiences have been seen as opportunities reserved for the privileged few. For many, particularly young people, travelling abroad, studying in another country or building global links can feel far beyond reach. Taith has been challenging that assumption.
The programme has proactively engaged with those who have historically felt excluded from international mobility opportunities. Schools in areas of deprivation, special schools, pupil referral units, youth organisations and charities supporting some of Wales’s most marginalised people have all participated. This focus matters because international exchange is not simply about travel. It builds confidence, aspirations and skills that can shape a person’s future. For many participants, a Taith experience is their first opportunity to see beyond the boundaries of their immediate environment and imagine a different future for themselves.
Changing lives beyond the classroom
The stories emerging from Taith are often deeply personal. Young people on the margins of society return with a passion for learning and a new confidence in themselves and their abilities. Learners develop greater self-belief, new friendships and an understanding of countries and cultures beyond their own. Staff develop new professional networks and fresh approaches that benefit their communities back home in Wales. These are not abstract outcomes; they are life-changing experiences that ripple outwards to families, schools and communities across Wales.

Helping the world understand Wales
Wales is a nation with a rich culture, a unique language and a strong sense of identity. Yet too often, Wales has been overlooked internationally or mistaken for a region rather than a country in its own right. Taith has helped change that.
The programme brings people to Wales from across the globe while enabling Welsh participants to become informal ambassadors wherever they travel. Through these exchanges, people learn about Welsh language revitalisation, community-led development, creativity, sustainability, and our distinct national identity. They discover a modern Wales that is outward-looking, confident and globally engaged.
This cultural exchange works both ways. Participants return to Wales with new perspectives and ideas, enriching communities and strengthening international understanding. They also return with a renewed appreciation of what makes Wales special. Time and again, participants describe gaining a deeper sense of pride in their Welsh identity after seeing their culture through the eyes of others.
In this sense, Taith is not only exporting Welsh culture; it is reinforcing it at home.
Building Welsh soft power
The programme has also become an important instrument of Welsh soft power. Unlike larger international programmes that are often shaped by broader political priorities, Taith has been specifically designed around Welsh needs and aspirations. It enables partnerships not only across Europe but around the world, creating relationships that connect Wales with communities in North America, Africa, Asia and beyond.
These partnerships generate benefits far beyond the education sector. They create cultural links, professional collaborations and lasting international networks. They encourage visitors to experience Wales first hand and help position the nation as a place of innovation, creativity and opportunity.
For a small nation, visibility matters. Reputation matters. Relationships matter.
Through Taith, Wales is demonstrating that international influence is not measured by size alone. It is measured by the quality of connections that are built and the values that underpin them.

A lesson in modern nation-building
The programme’s success offers an important lesson about modern nation-building. Investing in people is one of the most powerful ways to strengthen a country. Every learner who gains confidence, every youth worker who develops new skills, every educator who finds new ways to engage learners and every visitor who leaves Wales with a new understanding of our nation contributes to a stronger future.
Taith has shown that international exchange is not simply an educational extra. It is a catalyst for social mobility, a platform for cultural diplomacy and a means of ensuring Wales is recognised on the global stage.
At its heart, Taith represents the very best of Wales: ambitious yet inclusive, proudly Welsh yet internationally minded. Thousands of people have already embarked on their own Taith journeys. Their experiences are helping to create a Wales that is more confident, more connected and better known across the world.
This is a Welsh success story worth celebrating and one the world deserves to hear.
Mynd â Chymru i’r byd a newid bywydau gartref
(The English version of this article is above this Welsh version. Mae fersiwn yn y Saesneg ar gael uwchben y fersiwn hon yn y Gymraeg)

Mewn byd sy’n teimlo’n gynyddol rhanedig, nid yw’r gallu i gysylltu ar draws ffiniau, diwylliannau a chymunedau erioed wedi bod yn bwysicach. Dyna’n union yr hyn y crëwyd Taith i’w wneud. Ers ei lansio yn 2022, mae rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru wedi agor drysau i filoedd o bobl, gan greu cyfleoedd sydd nid yn unig yn addysgol, ond yn drawsnewidiol. Ystyr Taith yw ‘journey’ yn y Gymraeg – enw addas ar gyfer rhaglen sy’n mynd â Chymru ar daith, yn newid bywydau ac yn cryfhau ein lle yn y byd.
Pan sefydlwyd Taith yn dilyn ymadawiad y DU o Erasmus+, byddai wedi bod yn hawdd canolbwyntio’n llwyr ar ddisodli rhaglen goll. Yn lle hynny, dewisodd Cymru lwybr mwy uchelgeisiol. Cynlluniwyd Taith o amgylch gwerthoedd Cymru: cynhwysiant, cyfle a chydweithio rhyngwladol. Daeth yn fwy na chynllun symudedd; daeth yn ddatganiad am y math o genedl y mae Cymru eisiau bod.

Agor drysau ar ôl Erasmus
Efallai mai cyflawniad mwyaf arwyddocaol Taith yw ei ymrwymiad i chwalu rhwystrau ac ehangu cyfleoedd i’r rhai sydd wedi cael eu tangynrychioli’n draddodiadol mewn rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, pobl anabl, pobl ag anghenion dysgu ychwanegol, ac unigolion o gymunedau lleiafrifoedd ethnig. Ers rhy hir, mae profiadau rhyngwladol wedi cael eu gweld fel cyfleoedd a gedwir ar gyfer ychydig o bobl freintiedig. I lawer, yn enwedig pobl ifanc, gall teithio dramor, astudio mewn gwlad arall neu adeiladu cysylltiadau byd-eang deimlo ymhell y tu hwnt i gyrraedd. Mae Taith wedi bod yn herio’r dybiaeth honno.
Mae’r rhaglen wedi ymgysylltu’n rhagweithiol â’r rhai sydd wedi teimlo’n hanesyddol wedi’u heithrio o gyfleoedd symudedd rhyngwladol. Mae ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, sefydliadau ieuenctid ac elusennau sy’n cefnogi rhai o bobl fwyaf ymylol Cymru i gyd wedi cymryd rhan. Mae’r ffocws hwn yn bwysig oherwydd nad yw cyfnewid rhyngwladol yn ymwneud â theithio yn unig. Mae’n meithrin hyder, dyheadau a sgiliau a all lunio dyfodol person. I lawer o gyfranogwyr, profiad Taith yw eu cyfle cyntaf i weld y tu hwnt i ffiniau eu hamgylchedd uniongyrchol a dychmygu dyfodol gwahanol iddyn nhw eu hunain.
Newid bywydau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth
Mae’r straeon sy’n dod i’r amlwg o Taith yn aml yn bersonol iawn. Mae pobl ifanc ar gyrion cymdeithas yn dychwelyd gydag angerdd dros ddysgu a hyder newydd ynddynt eu hunain a’u galluoedd. Mae dysgwyr yn datblygu mwy o hunan-gred, cyfeillgarwch newydd a dealltwriaeth o wledydd a diwylliannau y tu hwnt i’w rhai eu hunain. Mae staff yn datblygu rhwydweithiau proffesiynol newydd a dulliau ffres sy’n fuddiol i’w cymunedau yn ôl adref yng Nghymru. Nid canlyniadau haniaethol yw’r rhain; maent yn brofiadau sy’n newid bywydau ac sy’n ymestyn allan i deuluoedd, ysgolion a chymunedau ledled Cymru.

Helpu’r byd i ddeall Cymru
Mae Cymru yn genedl â diwylliant cyfoethog, iaith unigryw ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Ac eto yn rhy aml, mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu’n rhyngwladol neu ei chamgymryd am ranbarth yn hytrach na gwlad yn ei rhinwedd ei hun. Mae Taith wedi helpu i newid hynny.
Mae’r rhaglen yn dod â phobl i Gymru o bob cwr o’r byd gan alluogi cyfranogwyr o Gymru i ddod yn llysgenhadon anffurfiol lle bynnag y maent yn teithio. Trwy’r cyfnewidiadau hyn, mae pobl yn dysgu am adfywio’r iaith Gymraeg, datblygiadau dan arweiniad y gymuned, creadigrwydd, cynaliadwyedd, a’n hunaniaeth genedlaethol unigryw. Maent yn darganfod Cymru fodern sy’n edrych tuag allan, yn hyderus ac yn ymgysylltu’n fyd-eang.
Mae’r cyfnewid diwylliannol hwn yn gweithio’r ddwy ffordd. Mae cyfranogwyr yn dychwelyd i Gymru gyda safbwyntiau a syniadau newydd, gan gyfoethogi cymunedau a chryfhau dealltwriaeth ryngwladol. Maent hefyd yn dychwelyd gyda gwerthfawrogiad newydd o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n arbennig. Dro ar ôl tro, mae cyfranogwyr yn disgrifio ennill ymdeimlad dyfnach o falchder yn eu hunaniaeth Gymreig ar ôl gweld eu diwylliant trwy lygaid eraill.
Yn yr ystyr hwn, nid yn unig y mae Taith yn allforio diwylliant Cymru; mae’n ei atgyfnerthu gartref.
Adeiladu pŵer meddal Cymru
Mae’r rhaglen hefyd wedi dod yn offeryn pwysig o ddangos pŵer meddal Cymru. Yn wahanol i raglenni rhyngwladol mwy sy’n aml yn cael eu llunio gan flaenoriaethau gwleidyddol ehangach, mae Taith wedi’i chynllunio’n benodol o amgylch anghenion a dyheadau Cymru. Mae’n galluogi partneriaethau nid yn unig ledled Ewrop ond ledled y byd, gan greu perthnasoedd sy’n cysylltu Cymru â chymunedau yng Ngogledd America, Affrica, Asia a thu hwnt.
Mae’r partneriaethau hyn yn cynhyrchu buddion ymhell y tu hwnt i’r sector addysg. Maent yn creu cysylltiadau diwylliannol, cydweithrediadau proffesiynol a rhwydweithiau rhyngwladol parhaol. Maent yn annog ymwelwyr i brofi Cymru yn uniongyrchol ac yn helpu i osod y genedl fel lle o arloesedd, creadigrwydd a chyfle.
I genedl fach, mae gwelededd yn bwysig I genedl fach. Mae enw da yn bwysig. Mae perthnasoedd yn bwysig.
Drwy Taith, mae Cymru yn dangos nad yw dylanwad rhyngwladol yn cael ei fesur yn ôl maint yn unig. Fe’i mesurir yn ôl ansawdd y cysylltiadau a adeiladir a’r gwerthoedd sy’n sail iddynt.

Gwers mewn adeiladu cenedl fodern
Mae llwyddiant y rhaglen yn cynnig gwers bwysig am adeiladu cenedl fodern. Mae buddsoddi mewn pobl yn un o’r ffyrdd mwyaf nerthol o gryfhau gwlad. Mae pob dysgwr sy’n ennill hyder, pob gweithiwr ieuenctid sy’n datblygu sgiliau newydd, pob addysgwr sy’n dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â dysgwyr a phob ymwelydd sy’n gadael Cymru gyda dealltwriaeth newydd o’n cenedl yn cyfrannu at ddyfodol cryfach.
Mae Taith wedi dangos nad dim ond rhywbeth ychwanegol addysgol yw cyfnewid rhyngwladol. Mae’n gatalydd ar gyfer symudedd cymdeithasol, yn llwyfan ar gyfer diplomyddiaeth ddiwylliannol ac yn fodd o sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod ar y llwyfan byd-eang.
Wrth ei wraidd, mae Taith yn cynrychioli’r gorau o Gymru: Cymru uchelgeisiol ond cynhwysol, yn falch o fod yn gymreig ond eto’n rhyngwladol ei feddwl. Mae miloedd o bobl eisoes wedi cychwyn ar eu teithiau Taith eu hunain. Mae eu profiadau yn helpu i greu Cymru sy’n fwy hyderus, yn fwy cysylltiedig ac yn fwy adnabyddus ledled y byd.
Mae hon yn stori lwyddiant Gymreig sy’n werth ei dathlu ac un y mae’r byd yn haeddu ei chlywed.

Bylines Network Gazette is out!
The latest Bylines Network Gazette is out now. Become a Friend of Bylines Network or upgrade to a paid Substack subscription, and you will get access to a vital collection of citizen articles and stories.
Journalism by the people, for the people.







