• Contact
  • About
  • ISSN 3049-9712
  • Authors and editors
NEWSLETTER SIGN UP
Bylines Cymru
Advertisement
  • Home
  • Politics & Society
    • Devolution
    • Economy
    • Education
    • Europe
    • Health
    • Housing
    • Media
    • Trade
    • Westminster
  • Arts & Culture
  • Hiraeth
  • Voices
    • Deialog | Interview
    • Editorial
    • Gwalia | History
    • Opinion
    • Poetry
  • Sports
No Result
View All Result
  • Home
  • Politics & Society
    • Devolution
    • Economy
    • Education
    • Europe
    • Health
    • Housing
    • Media
    • Trade
    • Westminster
  • Arts & Culture
  • Hiraeth
  • Voices
    • Deialog | Interview
    • Editorial
    • Gwalia | History
    • Opinion
    • Poetry
  • Sports
No Result
View All Result
Bylines Cymru
Home Voices | Lleisiau

Cymru wedi’i dadrithio eto: heist HS2 San Steffan

Rhaid unioni anghyfiawnder HS2. Tra bod penderfyniadau teithio’n cael eu gwneud yn San Steffan, ni fydd cyrchfan Cymru byth o’n dewis ni

Delyth Jewell by Delyth Jewell
31-10-2023 17:55 - Updated on 02-11-2023 18:38
in Voices | Lleisiau
Reading Time: 5 mins read
A A
HS2 heist - Cymraeg. Empty railway lines

Photo by Johannes Plenio on Unsplash. Filters by Bylines Cymru

Share on Bluesky

Doedd HS2 byth yn mynd i fod o fudd i Gymru: ac ni all unrhyw esgus nac anwiredd newid y ffaith honno. Rydym ni yng Nghymru wedi cyfrannu tuag at reilffordd sydd heb unrhyw fudd inni, gyda llai o gysylltiad, ac rydym wedi cael ein hamddifadu o filiynau o bunnoedd am y fraint wyrdroëdig honno: biliynau y gallem fod wedi’u gwario ar wella ein hisadeiledd bregus ein hunain.

Yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd Rishi Sunak y gyfrinach waethaf yng ngwleidyddiaeth y DU: ei fod yn canslo rheilffordd HS2 i’r gogledd o Birmingham, ac yn gwerthu’r tir y bwriadwyd adeiladu arno a dyma’r halen ar y briw. Polisi ‘scorched earth’ fel y dywedir yn Saesneg, yn ei ystyr lythrennol bron. Fe wnaeth Mr Sunak addewidion di-sail am drydaneiddio prif lein gogledd Cymru – cyn dechrau ystyried unrhyw fanylion. Roedd yn beth sinigaidd gan Brif Weinidog sy’n gwybod ei fod yn annhebygol o fod yn y swydd am ddigon hir i fod yn atebol i’r rhai fyddai wedi elwa fwyaf o’r prosiect.

Addewidion, addewidion

Dyna beth rydyn ni wedi dod i’w ddisgwyl gan San Steffan – maen nhw’n addo’r byd a’r betws, ac yna’n cael trafferth enfawr i ddod a’r maen i’r wal mewn unrhyw fodd (cofiwn am addewid trydaneiddio prif lein y Great Western?). Yn rhy aml, o ran y cynllunio neu’r gwaith go-iawn i wneud i’n trenau redeg mewn yn y byd go-iawn (heb sôn am redeg ar amser), maen nhw’n llunio’r penawdau, yna’n diflannu’n ddisymwth a’u haddewidion ar chwâl.

Ond o ddifrif: mae’r ffaith na fydd cysylltiad HS2 yn Crewe yn mynd yn digwydd wedi chwalu unrhyw gysyniad y bydd y darn hwn o’r prosiect o unrhyw fudd i’n cenedl ni. Mae wedi bod yn ddyrys gwylio un gweinidog Torïaidd ar ôl y llall yn honni bod HS2 a hefyd Northern Powerhouse Rail rywsut yn brosiectau Cymru a Lloegr, er gwaethaf y ffaith nad yw modfedd o’u traciau yn dod o fewn ein ffiniau.

Roedden ni’n gwybod erioed nad oedd gan y Torïaid yn San Steffan unrhyw hygrededd o rinwedd. Ond yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi dechrau cwestiynu a oes ganddynt unrhyw hygrededd o gwbl.

Na, mae mor glir â chrisial: Prosiect Lloegr yn unig yw HS2, gyda’r nod o wella rheilffyrdd Lloegr – wel, pob lwc iddyn nhw. Ond ni ddylai hyn byth fod wedi bod ar draul Cymru.

Gemau San Steffan

Mae’n wallgof meddwl am yr hyn y gallem fod wedi’i wneud gyda’r biliynau y cawsom ni ein hamddifadu. Oherwydd er bod Llundain unwaith eto yn elwa o reilffyrdd cyflym, yng Nghymru mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn adnewyddu ein hisadeiledd Fictoraidd.

Yn 2020-21 dim ond 3.7% o draciau rheilffordd Cymru gafodd eu trydaneiddio, o’i gymharu â dros 43% yn Lloegr, a 32% yn yr Alban. Gallai’r biliynau sy’n ddyledus i ni eisoes, o gamau cynharach HS2, gael eu defnyddio tuag at drydaneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd cyfan, ac i gefnogi ein rhwydwaith bysiau sydd yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad a diffyg cyllid.

Rwyf wedi derbyn gwybodaeth (o ffynhonnell dda), bod y gymhareb (ratio) rhwng gwariant ar wella rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr a Chymru yn 200:1. Mae’n union fel petai Cymru yn chwarae gêm gardiau mewn ffair yn erbyn twyllwr sydd wastad yn sicrhau ei fod yn ennill er mwyn cymryd ein harian ni.

Mae angen i bwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan unioni’r anghyfiawnder parthed HS2. A chyhyd â bod penderfyniadau am ein dyfodol yn cael eu gwneud mewn gwlad arall, ni fydd unrhyw benderfyniad o’n dewis ni.

Cyfeiriad teithio

Dylid gwneud penderfyniadau parthed brosiectau isadeiledd mawr, a thrafnidiaeth, yng Nghymru. Dylai pwerau dros yr hyn sy’n digwydd ar ein rheilffyrdd a’n traciau yn benderfyniad i ni. Mae’r methiant i ddatganoli’r pwerau hyn i’n Senedd wedi ein gadael ar drugaredd penderfyniadau dinistriol fel hyn dro ar ôl tro.

Mae arnom angen yr ymrwymiad hwnnw gan Lafur, cymaint ag y mae ei angen arnom o’r llanast presennol yn San Steffan. Oherwydd, wrth gwrs byddai llywodraeth dan arweiniad Keir Starmer o dan andros o bwysau ariannol. Yn anochel, bydd penderfyniadau anodd yn eu hwynebu. Ond nid yw hwn yn brosiect rhethregol i’r dyfodol, ond penderfyniad ynghylch dechrau ar y Gwaith o ddifrif. Mae’n fater o unioni anghyfiawnder hanesyddol. Camgymeriad sydd wedi ei wneud yn barod – tric sydd eisoes wedi’i chwarae.

Dyma reilffordd nad yw’n cychwyn lle yr oedd i fod i gychwyn, nac yn gorffen lle’r oedd disgwyl i’w chyrchfan fod. Ond heb os nac oni bai, ar unrhyw adeg yn ei thaith, nid yw Cymru wedi cael yr arian yr ydym yn ei haeddu ac sy’n ddyledus i ni.

Dyma arian sydd rhaid i ni ei fynnu, gan bwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan. Arian sy’n ddyledus i ni. Mae’n rhaid iddyn nhw dalu.

Mae’n hen bryd i San Steffan roi ein biliynau yn ôl i ni.

Gallwch ddarllen yr erthygl hon yn Saesneg yma.

Tags: devolutionHS2independencetransportWestminster
Previous Post

Wales derailed again: Westminster’s HS2 heist

Next Post

The birth of the UK shipping forecast: the Royal Charter storm

Delyth Jewell

Delyth Jewell

Delyth Jewell MS is the Deputy Leader of Plaid Cymru. She was born in Caerphilly, grew up in Ystrad Mynach, and went to school in Bargoed, before graduating from the University of Oxford with a degree in English Language and Literature and a Masters in Celtic Studies. She worked as a researcher and speechwriter for Plaid Cymru MPs in Westminster, winning the Researcher of the Year Award for her work in paving the way for legislation on stalking and domestic violence. She later worked for Citizens’ Advice and Action Aid. In 2019 she was sworn in as the Plaid Cymru Member of the Senedd for South Wales East, and was re-elected in 2021.

Related Posts

A garden filled with lots of different types of flowers.
Environment

A love lesson from the garden

by Martha Garcia
6 November 2026
Man chained to a heavy weight labelled Misogyny
Politics & Society

‘Good men’ and the misogyny they excuse

by Jack Meredith
5 November 2026 - Updated on 9 November 2026
Factories with smoke under a cloudy sky.
Environment

Dan Ashby and Lucy Taylor unearth a toxic legacy

by Brian McHugh
4 November 2026
Senior woman paying bills.
Economy

Growing older should not mean going without

by Martha Garcia
3 November 2026
A man who has had both legs amputated is sitting on a dirt floor next to an old wheelchair.
Gaza

“I have a right to receive medical treatment:” a plea from Gaza

by Farah Hassan
31 October 2026
Next Post
Royal Charter ship, artist unknown. Filters added by Bylines Cymru

The birth of the UK shipping forecast: the Royal Charter storm

PLEASE SUPPORT OUR CROWDFUNDER

BROWSE BY TAGS

austerity Austerity Project Brexit campaign climate change community Cost of living Covid Cymraeg democracy devolution economy education energy environment equality events general election health history identity inclusion independence international journalism mental health older people opinion party politics Plaid Cymru Poetry Sunday politics public health public services research Senedd South Wales Welsh culture Welsh Government Welsh heritage Welsh history Welsh language Welsh poetry Welsh writers Westminster
Bylines Cymru

We are a not-for-profit citizen journalism publication. Our aim is to publish well-written, fact-based articles and opinion pieces on subjects that are of interest to people in Cymru and beyond.

Bylines Cymru is a trading brand of Bylines Networks Limited which is separate to, but allied with, Byline Times.

Learn more about us

No Result
View All Result
  • About
  • Authors and editors
  • Complaints
  • Contact
  • Donate
  • Privacy
  • Network Map
  • Network RSS Feeds
  • Submission Guidelines
  • Download the Bylines Network App

© 2023-2026 Bylines Cymru. Powerful Citizen Journalism. ISSN 3049-9712

No Result
View All Result
  • Politics & Society
    • Devolution
    • Economy
    • Education
    • Health
    • Housing
    • Media
    • Trade
    • Westminster
  • Arts & Culture
  • Hiraeth
  • Voices | Lleisiau
    • Deialog | Interview
    • Editorial
    • Gwalia | History
    • Opinion
    • Poetry
  • Sports & Leisure

Newsletter sign up

CROWDFUNDER

© 2023-2026 Bylines Cymru. Powerful Citizen Journalism. ISSN 3049-9712